Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2016
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
atodol ar gyfer y Bil Tai a Chynllunio ynghylch gwelliannau
i’r Bil mewn perthynas â Phrynu Gorfodol
1. Ar 26 Ionawr 2016, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil Tai a Chynllunio ynghylch gwelliannau i’r Bil mewn perthynas â Phrynu Gorfodol.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 25 Chwefror 2016.